WNA Logo.jpg

 

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol

Dydd Mawrth 22 Medi 2015

Ystafell Bwyllgora 4,  Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Drwy gyfrwng cynhadledd fideo ag Ysbyty Maelor Wrecsam

 

Yn bresennol            Caerdydd

Mark Isherwood AC (Cadeirydd)

Pip Ford, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Lynne Hughes, Cymdeithas MS Cymru

Ana Palazon, Cymdeithas Strôc

David Murray - Ymddiriedolaeth Cure Parkinson’s

Rachel Williams, Parkinson’s UK

Megan Evans, Cydlynydd WNA

Ann Sivapatham, Epilepsy Action Cymru

Nathan Sivapatham, Epilepsy Action Cymru

Kelly Bevan, Ymddiriedolaeth Anaf i'r Ymennydd mewn Plant

Sat Sandhu, Grŵp Niwroleg ABPI

Dilwyn Jones, Ymddiriedolaeth Adsefydlu Cleifion wedi Anaf i’r Ymennydd (BIRT)

Catherine Clenaghan, Nyrs Arbenigol Clefyd Huntington (HD), Prifysgol Caerdydd

Kay Holmes, Cymdeithas Clefyd Huntington

Carol Smith, MDNA

Manel Tippet Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Gwen Philips, Gwasanaeth Niwroseiciatreg Cymru

Seth Mensah, Gwasanaeth Niwroseiciatreg Cymru

Jennifer Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Margaret Ware, Grŵp Cymorth Dystroffi Myotonig

Miriam Wood, Cymorth ME MESiG

Christella Bailey, Cymorth ME MESiG

Jean Francis, Ataxia a Fi

Gareth Power, BASW Cymru

Fiona McDonald, Cymdeithas MS  

                        Samantha Fisher, Seicolegydd, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro

Darren Millar AC

John Meredith, Grwp Cymorth Cymdeithas Dystonia

 

 

 

 

Wrecsam

 Annette Morris,  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Urtha Felda, Cymdeithas MS Cymru 

Sylvia Prankard, Parkinson’s UK

Craig Roberts, Seicolegydd Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Elenud Plack, Cynghrair Niwrolegol Wrecsam

Jane Johnston-Cree, Canolfan Therapi Niwro

 

 

Ymddiheuriadau

Barbara Locke, Parkinson's UK

                        Michelle Herbert, Elusen Brain Tumour

                        Carl Cooper, PAVO

                        Dafydd Williams, Dystroffi Myotonig

                        Janet Finch-Saunders AC

Marcus Longley, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Kevin Thomas, MNDA

Ruth Crowder, Coleg Therapyddion Galwedigaethol Cymru

Matthew Makin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Jane Stein, Cymdeithas PSP

Carol McCuddon, Ataxia UK

Simon Thomas AC

Leigh Campbell, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Angela Collett, Sefydliad yr Ymennydd a’r Asgwrn Cefn

Carol Ross - Ffibromyalgia UK

Aled Roberts AC

Janet Haworth, AC

Bethan Jenkins AC

Karen Bonham, AC

Helen Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg

Sue Mullock, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg

Bernie Conway, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg

Kate Steele, SHINE

David Maggs, Headway

 

Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof am Harry Prankard, Parkinson’s UK, a fu farw ychydig wythnosau ar ôl rhoi cyflwyniad yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp. Anfonodd Mark Isherwood ei gydymdeimlad llwyraf at ei wraig Sylvia ar ran y grŵp.

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

 

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015 yn gywir.

 

Esboniodd Lynne Hughes fod y pwyllgor yn dal i aros am ragor o wybodaeth gan Ian Langfield i sicrhau bod y llythyrau y mae angen eu hanfon yn  adlewyrchu'r materion dan sylw’n briodol.

 

 

 

 

Gwasanaethau niwroseicoleg a niwroseiciatreg yng Nghymru

 

Esboniodd Lynne fod Cynghrair Niwrolegol Cymru wedi cynnal cyfarfod yng ngorllewin Cymru yn 2013 i drafod y gwasanaethau hyn. Cafwyd cyflwyniadau’n pwysleisio’r holl wahanol glefydau sy’n achosi diffyg gallu gwybyddol niwrolegol, ar wahân i faterion seiciatrig fel iselder a phryder, ac effaith hynny ar gyflogaeth ac ar y teulu. Fodd bynnag, mae gwasanaethau yng Nghymru yn dal yn wannach nag ydynt yng ngweddill y DU ac esboniodd Lynne fod y cyflwyniadau a’r trafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod hwn yn tanlinellu’r angen i Gynghrair Niwrolegol Cymru ymgyrchu dros wasanaethau gwell.

 

 

Pwysigrwydd gwasanaethau niwroseiciatreg ar gyfer y rhai ag anhwylderau niwrolegol anorganaidd ac anhwylderau eraill - David Linden (Athro Niwrowyddorau Trosiadol, Prifysgol Caerdydd, Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyfadran Niwroseiciatreg, Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru. 

 

Esboniodd David ei fod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o niwroseiciatreg a niwroseicoleg. Er mai yn Ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd y mae’n gweithio,mae ganddo rôl genedlaethol. Mae pobl o’r De-orllewin a’r De-ddwyrain yn cael eu cyfeirio ato. Caiff gwasanaethau yn y Gogledd eu darparu gan y Gwasanaeth Anaf i'r Ymennydd Gogledd Cymru a Chanolfan Walton, Lerpwl.

 

Tynnodd David sylw at y ffaith bod cynifer o gleifion strôc yn dioddef o iselder ac, er y llwybrau craidd, roedd yn amau nad oedd yn hawdd iawn manteisio ar wasanaethau. Roedd cyflwr cleifion epilepsi yn cael effaith ddifrifol ar ansawdd eu bywydau. Yng Nghymru, mae’r Athro Michael Kerr o Brifysgol Caerdydd yn cynnig arbenigedd. Mae’r nifer sy’n dioddef o glefyd Parkinson yn cynyddu wrth i'r boblogaeth gynyddu a heneiddio ac mae rhwng chwarter a hanner y cleifion yn dioddef o anhwylderau seiciatrig difrifol. Fodd bynnag, mae'r rhain yn aml yn cael eu rheoli gan y meddyg teulu yn hytrach nag ysbytai neu Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol, felly nid oedd barn fwy arbenigol ar gael i’r cleifion hyn. Cyflyrau nad oes esboniad meddygol iddynt yw syndromau niwrolegol anorganig ac nid oes gwasanaeth penodol ar eu cyfer yng Nghymru.

 

Prinder gwasanaethau niwroseicoleg - Dr Tanya Edmonds, Prif Niwroseicolegydd Ymgynghorol Clinigol, Adran Niwroseicoleg, Ysbyty Treforys.

 

Esboniodd Tanya ei bod yn anodd cael gwasanaeth gan niwroseicolegydd mewn ambell ran o Gymru. Os oes gwasanaethau effeithiol ar gael, mae’r dystiolaeth yn dangos bod lles hirdymor cleifion a'u teuluoedd yn gwella.

 

Amlinellodd y bwlch mawr mewn gwasanaethau niwroseicoleg ar gyfer rheoli strôc a bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael trafferth cael unrhyw fath o wasanaethau,  er gwaethaf effaith strôc ar eu gallu gwybyddol, gan gynnwys eu hymddygiad, a'r effaith a gaiff hyn ar y teulu a'r gofalwyr. Esboniodd ei bod yn hanfodol i bobl gael eu hasesu’n fuan ond nid oedd y sefyllfa yng Nghymru cystal â gweddill y DU, er bod y costau hirdymor o beidio ag ymyrryd yn enfawr. Yn gyffredinol, prin iawn yw’r adnoddau sydd ar gael i bobl â phroblemau niwroseicolegol yng Nghymru oherwydd ystyrir yn aml nad ydynt yn briodol ar gyfer Timau Iechyd Meddwl Cymunedol lleol.

 

Roedd Tanya wedi casglu profiadau cleifion ac wedi ystyried dulliau o ddarparu cymorth gan gymheiriaid, a’u heffaith ar les. Roedd wedi rhoi prosiectau adsefydlu cleifion niwroseicolegol ar waith gan ddefnyddio dulliau cyd-gynhyrchu a oedd yn cynnwys cynlluniau a oedd yn defnyddio cleifion i hyfforddi myfyrwyr meddygol a phobl broffesiynol eraill. Er ei bod yn teimlo bod angen rhagor o adnoddau, teimlai hefyd fod angen ailystyried sut y dylid darparu gwasanaethau a sut y mae’r gwasanaethau iechyd yn gweithio gyda’r trydydd sector.

 

Cwestiynau a thrafodaeth

 

Gofynnodd Mark Isherwood am gwestiynau o’r llawr.

 

Dyweddd Jenny Thomas ei bod yn falch o weld y gwerth ychwanegol sydd ynghlwm wrth wasanaethau seicoleg, a bod angen i'r BILlau sylweddoli eu pwysigrwydd a’r gwerth am arian y maent yn ei gynnig. Mae anghenion y rhai sydd â phroblemau anorganig yn fater difrifol a rhaid i seicoleg fod yn rhan annatod o’r holl wasanaethau. Roedd pawb yn cytuno â'r pwynt hwn.

 

Er bod y materion hyn wedi’u trafod yn 2013, yn ôl Ana Palazon roedd y problemau’n parhau ac mae’n rhaid i’r sefyllfa newid yn awr oherwydd bod llai na 25% o’r rhai sydd wedi cael strôc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gofynnodd am farn y Grŵp Trawsbleidiol er mwyn i Gynghrair Niwrolegol Cymru fedru gofyn cwestiynau i’r Gweinidog ac esbonio bod angen cyfeirio buddsoddiadau at broblemau penodol. 

 

Awgrymodd Mark Isherwood y dylid ysgrifennu at y pleidiau gwleidyddol unigol yn y dyfodol agos i ddylanwadu ar eu maniffestos a’u polisïau. Esboniodd Ana  fod sefydliadau unigol yn paratoi eu maniffestos eu hunain a bod Cynghrair Niwrolegol Cymru yn gobeithio datblygu ceisiadau ar gyfer y sefydliadau yn eu cyfanrwydd.  

 

Dywedodd Jenny Thomas y byddai’r ceisiadau ar gyfer cynlluniau cyflenwi’n cael eu hystyried yn fuan a byddai’n ddefnyddiol pe bai’r ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys elfennau’n ymwneud â niwroseicoleg.  

 

Esboniodd David Linden y byddai unrhyw gamau a gymerwyd i roi un llais i seciatryddion, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, y Gymdeithas Seicoleg a Chynghrair Niwrolegol Cymruyn ddefnyddiol.

 

Esboniodd David Murray fod yr effaith seicolegol, o safbwynt y claf, yn enfawr. Er bod ganddo Parkinson’s, mae pob cyflwr niwrolegol yn cynnwys elfennau cyffredin a dylent weithio ar y cyd. Tanlinellodd fod angen cofio am broblemau gofalwyr a theuluoedd pobl sydd â chyflyrau niwrolegol.

 

Cytunodd David Linden fod elfennau cyffredin ac, yng Nghymru, mae’n debygol mai datblygu gwasanaethau ar gyfer pob math o ddiagnosis yw'r ffordd ymlaen, hy gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio yn ôl angen yn hytrach na diagnosis.

 

Esboniodd Craig Roberts fod gwasanaethau ar gyfer pob math o ddiagnosis yn cael eu treialu ar raddfa fechran yn y Gogledd gan ddefnyddio'r sgiliau presennol, ond mae dirfawr angen gwasanaethau yn yr ardal hon.

 

Disgrifiodd Margaret Ware sut roedd hi’n gofalu am ei mab sydd â  Dystroffi Mytonig a dim ond yn ddiweddar y gofynnwyd a oedd ganddi hi ei hun unrhyw gwestiynau. Roedd yn teimlo’i bod yn bwysig ehangu gwasanaethau.  

 

Gofynnodd Mark Isherwood a yw cleifion yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd yn y broses o gynllunio gwasanaethau. Esboniodd Tanya fod hyn yn digwydd yn achos gwasanaethau i oedolion, ond nid gwasanaethau i blant  gan nad oes gwasanaeth seicoleg yng Nghymru i blant sydd â chyflyrau niwrolegol. Rhoddodd Mark fanylion y cynllun y mae Barnardo’s wedi’i ddatblygu i ofalwyr ifanc.

 

Dywedodd Miriam Wood fod meddygon teulu’n cyfeirio cleifion sydd ag ME at wasanaethau niwrolegol, ond nid yw’r gwasanaethau ar gael iddynt. Esboniodd Jenny Thomas nad yw’r adnoddau ar gael i ddarparu gwasanaethau o'r fath i’r rhai sydd ag ME gan y byddai'r gwasanaeth yn cael ei llethu. Awgrymodd Mark y gallai unigolion holi eu Haelodau Cynulliad

 

Sylwadau i gloi

 

Cytunodd y Grŵp ar nifer o gamau i'w cymryd:

·         Ysgrifennu at y Gweinidogion a chyfarwyddwyr polisi’r pleidiau yn tynnu sylw at fylchau mewn gwasanaethau niwroseiciatreg a niwroseicoleg ac yn gofyn sut y byddant yn ymdrin â nhw.

·          Esboniodd Mark Isherwood ei fod yn mynd i ysgrifennu at y Gweinidog ar ran y Gymdeithas MS ynghylch cymarebau nyrsys MS yng Ngogledd Cymru. Mae NICE yn argymell 1: 300 ond, mewn gwirionedd, 1: 1100 yw’r gymhareb yng Nghymru.

 

Esboniodd John Meredith nid oes unrhyw arbenigwyr dystonia yng Nghymru a gofynnodd a fyddai modd i'r Grŵp Trawsbleidiol ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am gymorth yn y cyswllt hwn.

 

Nododd Ana Palazon nad gwasanaethau ychwanegol, diangen oedd gwasanaethau niwroseiciatreg a niwroseicoleg ac mai datblygu gwasanaethau ar gyfer pob math o ddiagnosis yw’r ffordd ymlaen, gan ystyried anghenion y teulu.

 

Awgrymodd Darren Millar y dylai sefydliadau osod pris ar gyfer gwasanaethau a awgrymir a cheisiadau am ymrwymiadau mewn maniffestos.

 

Esboniodd Tanya Edmonds fod angen gwario mwy i arbed arian gan fod ymyrryd yn gynnar yn gwella canlyniadau hirdymor.

 

Esboniodd Eluned Plack fod prinder arbenigwyr yn y Gogledd a bod angen lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i bobl gael gofal sylfaenol.

 

Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf:

 

 Dyddiad y cyfarfod nesaf yw 9 Chwefror 2016 am 6.30pm yn Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd. Bydd cyswllt fideo gynadledda ag Ysbyty Maelor Wrecsam.